eithenhin saf de allan. ac edrychuir de vara
nres mor. maes guitneu rytoes. Boed emen
digeid y morvin aehellygawt guydi cvin. finaun wen
estir mor terruin. Boed emendigeid y vachteith. ae
golligawt guydi gueith. finaun. wenestir mor diffeith.
Diaspad vererid y ar vann caer. hid ar duu y dodir.
Gnaud guydi traha trangc hir. Diaspad mererid. y
ar. van kaer hetiv. hid ar duu y dadoluch. gnaud gu
ydi traha atregwch. Diaspad mererid am gorchuit
heno. ac nim haut gorlluit. G. G. traha tranguit.
Diaspad mererid y ar gvinev kadir keạdaul duv
ae gorev. Gnaud guydi gormot eissev. Diaspad mer
erid. am kymhell heno i urth uy istafell. Gnaud guy
di traha trangc pell. Bet seithenhin synhuir vann
Rug kaer kenedir a glan. mor maurhidic a kinran –}.
Seithennin, saf di allan
Ac edrychwyr di faranres – môr
Maes Gwyddno rhy döes.
Boed emendigaid y forwyn
A’i hellyngodd gwedi cwyn,
Ffynnon fenestr môr terrwyn.
Boed emendigaid y fachdaith
A’i gollyngodd gwedi gwaith.
FFynnon fenestr môr diffaith.
Diasbad Mererid i ar fan caer [– heddiw]
Hyd ar Dduw y dodir.
Gnawd gwedi traha tranc hir.
Disabad Mererid i ar fan caer – heddiw
Hyd ar Dduw y dadolwch.
Gnawd gwedi traha atregwch.
Diasbad Mererid a’m gorchwydd – heno
Ac ni’m hawdd orllwydd.
Gnawd gwedi traha tramgwydd.
Diasbad Mererid i ar winau – cadr
Cedol Dduw a’i gorau.
Gnawd gwedi gormodd eisiau.
Diasbad Mererid a‘m cymell – heno
I wrth fy ystafell.
Gnawd gwedi traha tranc pell.
Bedd Seithennin synnwyr fan
Rhwng Caer Genedr a glan – môr,
Mawrhydig o gynran.
Seithennin. get up and come out
And look at the boiling fury – of the sea
Which has covered Gwyddno’s land*.
Let the girl be cursed
Who unleashed it after supper.
In the wine-
Let the maid be cursed
Who released it after work.
In the wine-
Mererid’s shriek from the castle tower [– today]
Is raised up to God.
Usual after pride a protracted death.
Mererid’s shriek from the castle tower – today,
To God she implores.
Usual after pride sorrow.
Mererid’s shriek makes me mad – tonight,
Nor will it sweetly prosper me.
Usual after pride a tumble.
Mererid’s shriek riding a fine – bay,
God made her rich.
Usual after excess, want.
Mererid’s shriek forces me – tonight
Out of my chamber.
Usual after pride a long drawn-
The grave of Seithennin of exalted common-
[Lies] between Cenedr City‡ and the sea – shore,
A majestic prince†.